Onid fel yn y Saesneg, y 'rhodd' a roddir neu'r 'gwasanaeth'
gwirfoddol a gynigir ydyw'r elusen ei hun? Wrth
gyfrannu'n ariannol tuag at sefydliad, dyweder, yna y peth a roddwn yw'r
elusen, nid y sefydliad y cyflwynir ein rhodd ni iddo.
Cywirach felly fyddai enwi'r cwmni / sefydliad / partneriaeth
/ mudiad / menter / urdd / gymdeithas / ... fel, e.e.
'Sefydliad Elusennol' (Charitable Organisation) a fyddai
wedyn rhoi i ni Sefydliad Elusennol Cofrestredig - Rhif
12345 (Resistered Charitable Organisation - No.
12345). Sylwer mai ansoddair wedyn ydyw'r 'Elusennol' (nid enw
yn ei rinwedd ei hun), i ddisgrifio'r enw - sef y 'Sefydliad'. Ond wrth
gwrs, rydym ni'n byw mewn dyddiau 'lleihadiaeth' sydd wedi gwirioni ar fyrhau a
chywasgu a lleihau pob dim - yn enwedig enwau sefydliadau ac ati - i'w elfennau
lleiaf bosibl (sydd weithiau mor fyr fel eu bod yn ddisytyr ynddynt eu
hunain) !! Y ffurfiau cywasgedig hynny sydd wastad yn awgrymu bod
ryw elfen o'r enw llawn ar goll - yn enwedig felly yn achos enw cwmnïau
Saesneg, e.e. Severn-Trent Water (Company), British Gas
(Company), Rhondda Cynon Taf (Authority), Powys (County
Council), Cancer Research (Organisation). Does gennym ni
ddim gobaith felly i wneud synnwyr llawn o deitl unrhyw sefydliad a gyflwynir i
ni fel math o ben rhewfynydd, pan guddir oddi wrthym ni yr enw cyflawn o dan yr
wyneb, fel petae.
Onid drwy estyniad yn unig y'n gorfodir ni i dderbyn
y gair 'elusen' bellach fel ENW ynddo ei hun; h.y. enw ar gwmni / mudiad /
gymdeithas / sefydliad / ac ati? Ac onid dyna sydd wrth wraidd y cymysgwch
ynghylch a ddylid treiglo 'Cofrestredig' neu ddim?
Yn ei ffurff cyflawn, disgrifio beth bynnag sydd yn elusennol
y mae 'cofrestredig' . Felly, e.e., os yw'n
disgrifio cwmni, yna {Cwmni} Elusennol
Cofestredig; ond os yw'n disgrifio cymdeithas,
yna {Cymdeithas} Elusennol
Gofrestredig.
Eurwyn.
From: Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Catrin Beard
Sent: 23 April 2012 14:44
To:
[log in to unmask]
Subject: rhif elusen gofrestredig
/ cofrestredig
Pa un o’r rhain sydd orau?
Mae enghreifftiau o’r ddau i’w gweld ar y we, weithiau o fewn
yr un wefan/sefydliad (e.e. www.assemblywales).
Y cyntaf dwi’n ei ffafrio, ond mae’n debyg y gellid dadlau o
blaid y naill neu’r llall, gan ddibynnu a yw ‘cofrestredig’ yn cyfeirio at y
rhif ynteu’r elusen.
Diolch am unrhyw arweiniad
Catrin