Sut bynnag wyt ti'n neud o, yr elusen sy'n gofrestredig, nid y rhif. ----- Original Message ----- From: Catrin Beard To: [log in to unmask] Sent: Monday, April 23, 2012 2:51 PM Subject: Re: rhif elusen gofrestredig / cofrestredig Mae hwnna'n cael gwared â'r broblem o leia! Llawer llai o enghreifftiau ohono ar y we, ond mae'n gwneud synnwyr. Diolch From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Sent: 23 April 2012 14:45 To: [log in to unmask] Subject: ATB: rhif elusen gofrestredig / cofrestredig Neu 'rhif cofrestru'r elusen'? Carolyn ------------------------------------------------------------------------------ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Catrin Beard Anfonwyd/Sent: 23 Ebrill 2012 14:44 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: rhif elusen gofrestredig / cofrestredig Pa un o'r rhain sydd orau? Mae enghreifftiau o'r ddau i'w gweld ar y we, weithiau o fewn yr un wefan/sefydliad (e.e. www.assemblywales). Y cyntaf dwi'n ei ffafrio, ond mae'n debyg y gellid dadlau o blaid y naill neu'r llall, gan ddibynnu a yw 'cofrestredig' yn cyfeirio at y rhif ynteu'r elusen. Diolch am unrhyw arweiniad Catrin