Print

Print


Mae’n fenthyciad, ond mae’r patrwm yn un digon naturiol:

 

Hoffwn i annog Siān i fynd, hoffwn i sbarduno Siān i fynd, hoffwn i ysbrydoli Siān i fynd, hoffwn i orfodi Siān i fynd, hoffwn i helpu Siān i fynd.

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 03 Ebrill 2012 13:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Helpu

 

'Helpu i' dwi wedi'i glwad erioed - ella am mai benthyciad ydi o, dwn i ddim, ours not to reason why...

Anna

2012/4/3 Beryl H Griffiths <[log in to unmask]>

Os gwelwch chi’n dda a wnaiff rhywun fy helpu? Mae gen i gwestiwn sydd yn fy mhoeni yn fawr ar y funud wrth ddefnyddio’r ferf helpu. Mae fy ngreddf yn dweud wrthai bod angen i ar ei ōl wrth ddweud, er enghraifft, helpu i leihau rhywbeth. Dwi’n gwybod ein bod bob amser yn ceisio cofio osgoi defnyddio’r ‘i’ fondigrybwyll, ond mi fyddai ‘helpu gweld’, ‘helpu agor’ yn taro fy nghlust i yn ddieithr iawn. Ydwi’n iawn yn meddwl mai arddodiad ydi i yn fan hyn, ac felly bod gennym hawl i’w defnyddio? Neu ydwi wedi methu’n llwyr?

 

Beryl