Mae’n fenthyciad, ond mae’r patrwm yn un digon naturiol: Hoffwn i annog Siân i fynd, hoffwn i sbarduno Siân i fynd, hoffwn i ysbrydoli Siân i fynd, hoffwn i orfodi Siân i fynd, hoffwn i helpu Siân i fynd. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd Sent: 03 Ebrill 2012 13:05 To: [log in to unmask] Subject: Re: Helpu 'Helpu i' dwi wedi'i glwad erioed - ella am mai benthyciad ydi o, dwn i ddim, ours not to reason why... Anna 2012/4/3 Beryl H Griffiths <[log in to unmask]> Os gwelwch chi’n dda a wnaiff rhywun fy helpu? Mae gen i gwestiwn sydd yn fy mhoeni yn fawr ar y funud wrth ddefnyddio’r ferf helpu. Mae fy ngreddf yn dweud wrthai bod angen i ar ei ôl wrth ddweud, er enghraifft, helpu i leihau rhywbeth. Dwi’n gwybod ein bod bob amser yn ceisio cofio osgoi defnyddio’r ‘i’ fondigrybwyll, ond mi fyddai ‘helpu gweld’, ‘helpu agor’ yn taro fy nghlust i yn ddieithr iawn. Ydwi’n iawn yn meddwl mai arddodiad ydi i yn fan hyn, ac felly bod gennym hawl i’w defnyddio? Neu ydwi wedi methu’n llwyr? Beryl