Rwy wedi gweld "bywiogi" - unrhyw beth yn well nag "actifadu"! Rwy'n meddwl mai "bywiogi" roedd maes-e yn ei ddefnyddio. Ai dyma'r ystyr?: Mae angen bywiogi'r cyfrif trwy e-bost Anfonir neges i'ch cyfeiriad ebost i'w defnyddio i fywiogi'r cyfrif Ond pan soniais i yma am "deactivate", dywedwyd bod y "rhestr o dermau ar gyfer ffonau symudol a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith yn defnyddio 'dadweithredu' (ystyr tebyg yn dweud os yw cerdyn SIM yn gweithio neu beidio)." Ac, yn wir, mae'n defnyddio "gweithredu" am activate Dw i ddim yn siwr a fyddai'r ystyr yn glir bob tro, chwaith. Siân On 20 Ebrill 2012, at 09:51, Claire Richards wrote: > Mewn cysylltiad â chyfrifon ar y we. Y ddau ymadrodd hyd yma yw: > “Email activation needed” > “You will be sent an email to activate your email address” > > Diolch. > Claire > > Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a > Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa > gofrestredig yw 27A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 > 1DA. > > Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales > under the number 4276774, and the address of the registered office > is 27A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DA >