Dwi heb gael cyfle i ddilyn y ‘sgwrs’ yma yn iawn, ond oes rhywun wedi sôn am y Golygiadur? O ran treiglo enwau cwmnïau etc, mae’r Golygiadur yn dweud ein bod yn treiglo’r enw “os yw’n Gymraeg  neu’n ddigon Cymreig ei naws” (t 400).

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Jones
Sent: 17 Ebrill 2012 16:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo enwau cyrff/sefydliadau

 

Diolch bawb am yr atebion - dw i'n cytuno'n llwyr - druan o'r boi bach sy'n dysgu Cymraeg ac eisiau rheol bendant - ac eto, mae'n braf bod ein hiaith mor ddiddorol !

 

Sian

> Date: Tue, 17 Apr 2012 16:15:07 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Treiglo enwau cyrff/sefydliadau
> To: [log in to unmask]
>
> Mae'n ddrwg gen i nad oedd fy neges yn glir iawn, doeddwn i ddim yn
> awgrymu peidio â threiglo enwau cyffredin fel Prifysgol, Llywodraeth,
> Bwrdd etc. ond enwau priod. Yn cytuno'n llwyr bod ychwanegu gair fel
> cwmni etc. os oes modd, yn swnio'n well, heb sôn am y treiglad.
> > Dw i'n meddwl bydd hi'n anodd cynnig rheol, achos gyda llawer o gyrff mi
> > fyddwn i'n debyg o dreiglo'u henwau:
> >
> > Darlithiai ym Mhrifysgol Caerdydd..
> > Galwodd ar Lywodraeth Cymru..
> > Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg..
> > Diolchodd i Gyngor Powys..
> >
> > Ac er bod y ffin yn anodd ei thynnu, mae'n wahanol pan maen nhw'n fwy o
> > 'enwau' (priod) fyddwn i'n dweud, alla i ddim meddwl am lawer o
> > engrhefftiau ond mae Gyrfa Cymru yn un. Peidio treiglo fel arfer wedyn.
> > Yn aml mae pobl yn ychwanegu enw cyffredin o flaen yr enw priod e.e.
> > dweud 'cwyno am archfarchnad Tesco' yn lle 'am Tesco', 'rhodd i elusen
> > Tŷ Hafan' ac ati. Dw i'n gwneud hynny'n eitha aml, a dw i'n credu bod
> > pobl newyddion Radio Cymru yn gwneud hefyd. Ddim jyst i osgoi treiglad,
> > dw i'n teimlo bod dweud 'Bydd cwmni Microsoft' yn lle jyst 'Bydd
> > Microsoft' yn swnio'n fwy Cymreig rhywsut.
> >
> > Dim llawer o help, dim ond dweud, ar sail yr uchod, fyddwn i ddim yn
> > awgrymu peidio treiglo enwau sefydliadau o gwbl!
> >
> > Mae'n rhaid bod rhyw lyfr yn rhywle yn trafod hyn...
> >
> > Osian
> >
> >
> >
> >
> >
> >
> > On 17 April 2012 14:21, Sian Jones <[log in to unmask]
> > <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
> >
> >
> > Aaa - dw i wedi drysu'n lan ac yn methu penderfynu - ydan ni'n
> > treiglo enwau cyrff/sefydliadau mewn brawddeg - rhywun sy'n dysgu
> > Cymraeg sy wedi gofyn fy nghyngor - eisiau un rheol i weithio a hi.
> > Faswn i ddim fel arfer yn treiglo e.e. Rhoi'r wybodaeth i Gyrfa
> > Cymru - baswn yn ei dreiglo wrth siarad ond faswn i dim yn tueddu
> > sgwennu 'i Yrfa Cymru' - ond beth sy'n gywir?
> >
> > Diolch,
> >
> > Sian
> >
> >
>
>
> --
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
> --
> Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
>
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dil�wch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio � defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office. www.bangor.ac.uk