Dwi heb gael cyfle i ddilyn y ‘sgwrs’ yma yn iawn, ond oes rhywun wedi sôn am y Golygiadur? O ran treiglo enwau cwmnïau etc, mae’r Golygiadur yn dweud ein bod yn treiglo’r enw “os yw’n Gymraeg neu’n ddigon Cymreig ei naws” (t 400). From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Jones Sent: 17 Ebrill 2012 16:51 To: [log in to unmask] Subject: Re: Treiglo enwau cyrff/sefydliadau Diolch bawb am yr atebion - dw i'n cytuno'n llwyr - druan o'r boi bach sy'n dysgu Cymraeg ac eisiau rheol bendant - ac eto, mae'n braf bod ein hiaith mor ddiddorol ! Sian > Date: Tue, 17 Apr 2012 16:15:07 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Treiglo enwau cyrff/sefydliadau > To: [log in to unmask] > > Mae'n ddrwg gen i nad oedd fy neges yn glir iawn, doeddwn i ddim yn > awgrymu peidio â threiglo enwau cyffredin fel Prifysgol, Llywodraeth, > Bwrdd etc. ond enwau priod. Yn cytuno'n llwyr bod ychwanegu gair fel > cwmni etc. os oes modd, yn swnio'n well, heb sôn am y treiglad. > > Dw i'n meddwl bydd hi'n anodd cynnig rheol, achos gyda llawer o gyrff mi > > fyddwn i'n debyg o dreiglo'u henwau: > > > > Darlithiai ym Mhrifysgol Caerdydd.. > > Galwodd ar Lywodraeth Cymru.. > > Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg.. > > Diolchodd i Gyngor Powys.. > > > > Ac er bod y ffin yn anodd ei thynnu, mae'n wahanol pan maen nhw'n fwy o > > 'enwau' (priod) fyddwn i'n dweud, alla i ddim meddwl am lawer o > > engrhefftiau ond mae Gyrfa Cymru yn un. Peidio treiglo fel arfer wedyn. > > Yn aml mae pobl yn ychwanegu enw cyffredin o flaen yr enw priod e.e. > > dweud 'cwyno am archfarchnad Tesco' yn lle 'am Tesco', 'rhodd i elusen > > Tŷ Hafan' ac ati. Dw i'n gwneud hynny'n eitha aml, a dw i'n credu bod > > pobl newyddion Radio Cymru yn gwneud hefyd. Ddim jyst i osgoi treiglad, > > dw i'n teimlo bod dweud 'Bydd cwmni Microsoft' yn lle jyst 'Bydd > > Microsoft' yn swnio'n fwy Cymreig rhywsut. > > > > Dim llawer o help, dim ond dweud, ar sail yr uchod, fyddwn i ddim yn > > awgrymu peidio treiglo enwau sefydliadau o gwbl! > > > > Mae'n rhaid bod rhyw lyfr yn rhywle yn trafod hyn... > > > > Osian > > > > > > > > > > > > > > On 17 April 2012 14:21, Sian Jones <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > > > > > Aaa - dw i wedi drysu'n lan ac yn methu penderfynu - ydan ni'n > > treiglo enwau cyrff/sefydliadau mewn brawddeg - rhywun sy'n dysgu > > Cymraeg sy wedi gofyn fy nghyngor - eisiau un rheol i weithio a hi. > > Faswn i ddim fel arfer yn treiglo e.e. Rhoi'r wybodaeth i Gyrfa > > Cymru - baswn yn ei dreiglo wrth siarad ond faswn i dim yn tueddu > > sgwennu 'i Yrfa Cymru' - ond beth sy'n gywir? > > > > Diolch, > > > > Sian > > > > > > > -- > Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> > > Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit > Canolfan Bedwyr > Prifysgol Bangor/Bangor University > -- > Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565 > > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar > unwaith a dil�wch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, > rhaid i chi beidio � defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a > gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i > hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn > Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu > bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu > 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn > nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract > rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa > Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk > > This email and any attachments may contain confidential material and > is solely for the use of the intended recipient(s). If you have > received this email in error, please notify the sender immediately > and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you > must not use, retain or disclose any information contained in this > email. Any views or opinions are solely those of the sender and do > not necessarily represent those of Bangor University. > Bangor University does not guarantee that this email or > any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless > expressly stated in the body of the text of the email, this email is > not intended to form a binding contract - a list of authorised > signatories is available from the Bangor University Finance > Office. www.bangor.ac.uk