Dw i'n meddwl bydd hi'n anodd cynnig rheol, achos gyda llawer o gyrff mi fyddwn i'n debyg o dreiglo'u henwau: Darlithiai ym Mhrifysgol Caerdydd.. Galwodd ar Lywodraeth Cymru.. Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg.. Diolchodd i Gyngor Powys.. Ac er bod y ffin yn anodd ei thynnu, mae'n wahanol pan maen nhw'n fwy o 'enwau' (priod) fyddwn i'n dweud, alla i ddim meddwl am lawer o engrhefftiau ond mae Gyrfa Cymru yn un. Peidio treiglo fel arfer wedyn. Yn aml mae pobl yn ychwanegu enw cyffredin o flaen yr enw priod e.e. dweud 'cwyno am archfarchnad Tesco' yn lle 'am Tesco', 'rhodd i elusen Tŷ Hafan' ac ati. Dw i'n gwneud hynny'n eitha aml, a dw i'n credu bod pobl newyddion Radio Cymru yn gwneud hefyd. Ddim jyst i osgoi treiglad, dw i'n teimlo bod dweud 'Bydd cwmni Microsoft' yn lle jyst 'Bydd Microsoft' yn swnio'n fwy Cymreig rhywsut. Dim llawer o help, dim ond dweud, ar sail yr uchod, fyddwn i ddim yn awgrymu peidio treiglo enwau sefydliadau o gwbl! Mae'n rhaid bod rhyw lyfr yn rhywle yn trafod hyn... Osian On 17 April 2012 14:21, Sian Jones <[log in to unmask]> wrote: > > Aaa - dw i wedi drysu'n lan ac yn methu penderfynu - ydan ni'n treiglo > enwau cyrff/sefydliadau mewn brawddeg - rhywun sy'n dysgu Cymraeg sy wedi > gofyn fy nghyngor - eisiau un rheol i weithio a hi. Faswn i ddim fel arfer > yn treiglo e.e. Rhoi'r wybodaeth i Gyrfa Cymru - baswn yn ei dreiglo wrth > siarad ond faswn i dim yn tueddu sgwennu 'i Yrfa Cymru' - ond beth sy'n > gywir? > > Diolch, > > Sian > ------------------------------ > >