Er gwybodaeth, dyma sydd yn ‘Enwau Lleoedd Bro Dyfrdwy ac Alun’:
‘Morfa hallt’ yw ystyr Saltney. Mae’r -ey yn cyfeirio at dir sych
mewn corsdir; yn yr achos yma y môr oedd yn peri i’r corstir fod yn wlyb.
Ymhen amser, newidiodd afon Dyfrdwy ei chwrs fel canlyniad i’r siltio
parhaol, gan adael erwau lawer i sychu’n naturiol; yn wir ceir cyfeiriadau at
‘the great pasture called Salteney’ (1639).
Fodd bynnag er mwyn sicrhau rhywfaint o fasnach i Gaer a’r glannau
awgrymwyd torri yr hyn a alwyd yn New Cut mewn llyfr o’r enw
‘England’s Improvements by Sea and Land’ (1674). Yn 1737 cwblhawyd y
cynlluniau o gamlesu’r afon o Golftyn hyd at gyrion Caer. Roedd cwrs newydd yr
afon yn rhoi Saltney unwaith eto yn agos i’r afon, ond bod y tir yn llawer
sychach na’r morfa hallt ganrifoedd ynghynt.’
Rhian
Sent: Tuesday, April 17, 2012 2:15 PM
Subject: Re: Saltney, Sir y Fflint
Ddim
yn ôl Dictionary of the Place-names of Wales a dyw e ddim yn y Gazetteer.
Cofion
Siân
On 17 Ebrill 2012, at 14:13, Bethan Jones wrote:
Oes yna enw Cymraeg?
Gyda diolch
Bethan