Print

Print


Mae’n ddrwg gen innau os ydw i’n camddefnyddio’r rhestr e-bostio’r cylch, ond tybed a oes unrhyw un o aelodau’r cylch hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion (neu’n briod â thiwtor CiO, neu’n bartner, brawd, chwaer, ffrind, rhiant ayyb)?

Yr wyf wrthi’n ysgrifennu astudiaeth (ar gyfer cwrs MA Addysg Gymunedol ym Mhrifysgol Glyndwr) ar Addysg ar gyfer Datblygu Cymunedol a Dinasyddiaeth Gynaliadwy (ADCDF), a dwi wedi cael nifer o atebion gan diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. 

Tybed a fyddai unrhyw aelod o’r Cylch sy’n diwtor CiO yn fodlon llenwi holiadur neu’n fodlon rhannu manylion cyswllt unrhyw ffrind, perthynas, cymar ayyb sy’n diwtor CiO?

Dwi wedi cael 15 ymateb hyd yn hyn gan diwtoriaid CiO, ond 25-30 yw’r nod, yn ddelfrydol.

Diolch o galon.