I ateb Ann,

 Beth am fynd a materion o wallau cyhoeddus o'r fath gerbron yr Ombwdsmon(es) newydd a'i Thribwnlys? Gyda llaw, dw i wedi ei hateb yn llawnach ynglyn a fy niddordeb personol mewn materion o Scymraeg. Mae'n debyg bod llawer yn y grwp yn gwybod hefyd bod llyfr wedi ei gyhoeddi gan y Lolfa (ers y Nadolig y llynedd) gydag enghreifftiau o Scymraeg hefyd - ond credaf mai llyfryn ysgafn yw yn hytrach na dadansoddiad 'difrifol, academaidd.'

Mae'r grwp Flickr Scymraeg yn agored i unrhyw un a fyn ymaelodi a hi gyda llaw. Credaf bod dros y blynyddoedd bod dros 600 o enghreifftiau eisoes wedi eu cofnodi - ac mae oddeutu 40 ohonynt yn rhai personol i mi.

Pob hwyl, 
 
Siôn
 



From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, March 27, 2012 8:29 PM
Subject: Re: Cyfieithiadau Gwael - Morrosons

 
 
Diolch am hynny, ond i ble yr af, felly?  Cefais y rhain yn Nhesco ddoe:
 
Dewis heb Alergenau – Free From Range (‘Rwy’n amau bod y rhain yn gywir, ond bod angen dyfynodau ‘“Free From” Range’)
Dofednod o’r Rhewgell – Frozen Poultry – ond yr ochr arall i’r trawst (ac wedi hanner ei guddio ganddo, sef ystyr yr Xau) – Dofednod xxx Rhewgell – Fresh PoulXX:  Dofednod heb eu rhewi oedd yno.
 
Ni welaf bwynt boicotio siopau oni bai iddynt wrthod gwrando – ‘rwy’n siwr mai anwybodaeth ynghylch holl broses dwyieithrwydd sydd ar fai.  I ble ddylen ni eu cyfeirio nhw am gyngor pan ddaw oes Bwrdd yr Iaith i ben?
 
Ann

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sion Rees Williams
Sent: 27 March 2012 19:44
To: [log in to unmask]
Subject: Cyfieithiadau Gwael - Morrosons
 
Annwyl Ann,
 
Dyma chi: o'r grwp Flickr ar Scymraeg:
 
http://www.flickr.com/photos/hwnna/6841863452/in/pool-53462422@N00/
 
Fe dynnwyd y llun gan cyd-aelod o'n grwp ac hyderaf na fydd yn malio i mi ddod a'r arwydd ger bron.
 
Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn materion fel hyn - ysgrifennais fy nhraerthawd MA (20 000 o eiriau) ar Scymraeg gydag enghreifftiau ben baladr Cymru.
 
Less reasons for shopping at Morrisons fe dybiaf yw'r wers yma... 
 
Siôn
 
Y Bnr/Mr/M Siôn Rees WILLIAMS  MA (Celtic Studies), LLB. (Hons.), Cert. TESOL, MCIL.
(Siôn o Ewrop)

Cyfreithiwr trwy hyfforddiant, Ieithydd wrth alwedigaeth
Lawyer by training, Linguist by profession
Notaire de formation, Linguiste de profession

62 Northview Road
DUNSTABLE
Bedfordshire
LU5 5HB
Lloegr/England/Angleterre

Tel. + 44 (0)1582 476 288.
Mob. + 44 (0)7599 262 247.
http://uk.linkedin.com/in/sionrwilliams
http://llddc-sion.blogspot.com