Ces i waith unwaith (codais £1 y tudalen o ran caredigrwydd ar gyfer 70 o dudalennau) trwy warden neuadd brifysgol. ‘Roedd merch dramor wedi ysgrifennu traethawd Saesneg ar gyfer gradd (uwch?) yn ymwneud a Chyllid. ‘Roedd ei thiwtor wedi awgrymu iddi fod ei thraethawd yn ddigon da, ond iddi gael rhywun i’w drosi’n Saesneg go iawn. Wedi mynd dros y cyfan, treuliais gyda’r nos efo hi yn mynd trwyddo a gofyn “ai dyma beth mae hyn i fod yn ei olygu?”. Yr hyn oedd fy ngwylltio i oedd ei hateb arferol o “Of course; that’s what it says”. Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 27 March 2012 16:27 To: [log in to unmask] Subject: Re: aestheticization / commodification Tybed be fasa'n digwydd tasa gofyn i'r awdur (cyn ei saethu) be yn union mae'r frawdde yn ei golygu? Anna 2012/3/27 anna gruffydd <[log in to unmask]> Saethu'r awdur ydi'r awgrym gora. Yn ail, ailsgwennu'r frawddeg gan ddeud be mae'n feddwl go iawn (ar ol clandro hynny) - e.e. 'gwneud pethau' yn rhywbeth neu'i gilydd. Na, erbyn meddwl, saethu'r awdur ydi'r unig ddewis. Anna 2012/3/27 Wyn Hobson <[log in to unmask]> > Traethawd ymchwil doethuriaeth yn trafod datblygiad Caerdydd ydy’r cyd-destun: Historical events and individual and collective memories have been turned into functional resources under the umbrella of a mainstream consensual discourse that is subjected to the present ideology of the aestheticization and commodification of everyday life. Unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda?< Saethu'r awdur... ? Ond a bod o ddifri: 'aestheticize' : estheteiddio ? 'commodify' : nwyddháu ? Wyn