Print

Print


Fel merch i wenidog Wesla, dwi'n gwbl ymwybodol o hyn!! Ac wedi dadlau erioed mai'r Wesleaid ydy'r Methodistiaid go iawn - holi o'n i pam nad yw'r 'Methodist Church' yn GyA.

Catrin


From: Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Saturday, 24 March 2012, 13:59
Subject: Re: Church Army

Roedd yn arfer bod ddau fath o egwlysi Methodistaidd - Y Methodistiaid Wesleaidd a'r Methodistiaid Calfinaidd.  Er dros hanner canrif bellaf, ail-enwyd Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Eglwys Bresbyteraidd (Cymru / Lloegr / Iwerddon / India / ...), ac oddi ar hynny hefyd y cyfeirir at yr hyn a adwaenid ar un adeg fel y Methodistiaid Wesleaidd naill ai fel yr Eglwys Fethodistaidd (y teitl Swyddogol am wn i?) / Eglwys Wesleaidd (ar dafod gwlad o hyd).   Bydd angen i chi wirio'r gwefannau priodol i gael y tetlau yn gwbl gywir.
 
Eurwyn.

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 23 March 2012 14:08
To: [log in to unmask]
Subject: Church Army

Ai Byddin yr Eglwys sy'n cael ei ddefnyddio?

Gyda llaw - methu gweld Methodist Church / yr Eglwys Fethodistaidd dan 'church' yn GyA arlein - tybed pam?

Catrin