Mae yna erthygl gyfan am y gwahaniaeth rhwng y ddau air ar wefan yr RCN - http://www.rcn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/9216/Incidence_prevalence.pdf

 

However, true incidence is ‘the number of instances of illness commencing, or of persons becoming ill’ (or dying or being hurt in injuries, or whatever) ‘during a given period in a specified population’ (Last 2001). When most people use the term they mean the incidence rate, which differs slightly in that it is the rate at which events occur in a population (Last 2001). In other words, incidence usually means something that is measured within a set number of

people and in a time period (Rothman 2002).”

 

“Prevalence (or to be more correct, prevalence proportion and sometimes point prevalence) gives a figure for a factor at a single point in time (Jekel et al 2001) … The important words are ‘at that point in time’ because prevalence can tell us only what is happening at a certain point.”

 

(Dwi dal ddim yn deall yr ystyron, ond fi sy’n dwp.)

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 23 March 2012 16:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Incidence a prevalence

 

Ddim yn help, nac oedd; dim ond awgrym (ond y math o beth ‘rwy’n gwneud yn aml gyda phethau technegol). ‘rwy’n meddwl fy mod i wedi dweud o’r blaen sut y byddaf yn gofyn i Bruce “beth ddylwn i ei ddefnyddio ar gyfer y term-a’r-term”; bydd o’n dweud, “wel, beth ydy o?”, ac ar ol imi egluro, bydd yn dweud, “wel, dyna dy ateb”.

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)
Sent: 23 March 2012 16:33
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Incidence a prevalence

 

Yn anffodus does gen i ddim syniad pwy ysgrifennodd y peth gan mai tudalen ar wefan y Bwrdd Iechyd, sy’n cael ei rhedeg yn ganolog ond â gwybodaeth yn cael ei chyfrannu o bob man, yw ffynhonnell y frawddeg drafferthus. Bydd rhaid i mi chwilio am arbenigwr yn y maes i gael barn wybodus – ddylai hynny ddim bod yn rhy anodd, ond fe gaiff aros tan ddydd Llun beth bynnag. Diolch am eich help.

 

Iwan 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 23 Mawrth 2012 16:23
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Incidence a prevalence

 

Byddwn i’n ychwanegu’r geiriau Saesneg mewn cromfachau a dangos y cyfieithiad i’r cwsmer, gan ofyn a yw’n egluro’n foddhaol – gan gyfieithu’r cyfieithiad yn ol i’r Saesneg os bydd angen.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)
Sent: 23 March 2012 16:16
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Incidence a prevalence

 

O beth alla i ei ddeall, mae’r frawddeg yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:

 

Yn wahanol i’r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae’r galw am wasanaethau ‘Meddygaeth Arennol’ yn dibynnu ar y nifer o bobl sydd eisoes yn dioddef o glefydau arennol ar unrhyw adeg, yn hytrach na’r nifer o achosion newydd sy’n codi.

 

Dwi’n meddwl bod hynna’n weddol agos at gyfleu’r ystyr, ond mae e mor bell oddi wrth y geiriad yn y Saesneg fel fy mod yn gyndyn braidd i’w alw’n gyfieithiad.

 

Iwan

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 23 Mawrth 2012 16:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Incidence a prevalence

 

Nid yw Bruce yn ymwybodol o unrhyw fwriad y tu ol i’r gwahaniaeth sillafu.  O edrych yn GPC, ceir “mynychder” a “mynychdra” yn unig (nid y fersiynau gyda “t”).

 

Mae’n swnio fel un o’r achlysuron ‘na lle nad yw’r Gymraeg wedi gorfod gwahaniaethu mor fanwl o’r blaen.

 

Gallaf ddeall y disgrifiad o’r wefan - jyst abowt - ond hyd yn oed wedyn ni allaf ddeall y frawddeg sydd gennych yn dda iawn.  ‘Tasech chi’n medru ei hegluro i mi mewn geiriau eraill, efallai byddech hanner ffordd at gyfieithiad (hyd yn oed os bydd angen rhoi’r geiriau Saesneg mewn cromfachau).

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)
Sent: 23 March 2012 14:57
To: [log in to unmask]
Subject: Incidence a prevalence

 

Oes geiriau Cymraeg gwahanol yn cael eu harddel am y ddau derm meddygol yma? Dwi’n meddwl fy mod i’n deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniadau (gweler y link isod) ond ddim yn gwybod lle i ddechrau gyda dewis geiriau Cymraeg cyfatebol. Mae ‘mynychder’ yng Ngeiriadur yr Academi ar gyfer y ddau ohonynt, ond gyda sillafiad gwahanol (yw hyn yn fwriadol?).

 

Tra ’mod i wrthi beth yw ‘Established Renal Failure’ hefyd – mae’r cyfan yn digwydd yn yr un frawddeg erchyll isod :

 

In contrast to the majority of hospital services, managing a ‘Renal Medicine’ service is driven by prevalence (of Established Renal Failure) rather than incidence of disease.

 

Mae eglurhad da iawn o’r gwahaniaeth rhwng y ddau i’w weld yma: http://www.rcn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/9216/Incidence_prevalence.pdf

 

Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni,

 

Iwan