Byddwn i’n ychwanegu’r geiriau
Saesneg mewn cromfachau a dangos y cyfieithiad i’r cwsmer, gan ofyn a yw’n
egluro’n foddhaol – gan gyfieithu’r cyfieithiad yn ol i’r
Saesneg os bydd angen.
Ann
From:
Sent: 23 March 2012 16:16
To:
[log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Incidence a
prevalence
O beth alla i ei ddeall, mae’r
frawddeg yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:
Yn wahanol i’r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae’r galw am
wasanaethau ‘Meddygaeth Arennol’ yn dibynnu ar y nifer o bobl sydd
eisoes yn dioddef o glefydau arennol ar unrhyw adeg, yn hytrach na’r
nifer o achosion newydd sy’n codi.
Dwi’n meddwl bod hynna’n
weddol agos at gyfleu’r ystyr, ond mae e mor bell oddi wrth y geiriad yn
y Saesneg fel fy mod yn gyndyn braidd i’w alw’n gyfieithiad.
Iwan
From:
Sent: 23 Mawrth 2012 16:05
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Incidence a
prevalence
Nid yw Bruce yn ymwybodol o unrhyw fwriad
y tu ol i’r gwahaniaeth sillafu. O edrych yn GPC, ceir
“mynychder” a “mynychdra” yn unig (nid y fersiynau gyda
“t”).
Mae’n swnio fel un o’r
achlysuron ‘na lle nad yw’r Gymraeg wedi gorfod gwahaniaethu mor
fanwl o’r blaen.
Gallaf ddeall y disgrifiad o’r wefan
- jyst abowt - ond hyd yn oed
wedyn ni allaf ddeall y frawddeg sydd gennych yn dda iawn. ‘Tasech
chi’n medru ei hegluro i mi mewn geiriau eraill, efallai byddech hanner
ffordd at gyfieithiad (hyd yn oed os bydd angen rhoi’r geiriau Saesneg
mewn cromfachau).
Ann
From:
Sent: 23 March 2012 14:57
To: [log in to unmask]
Subject: Incidence a prevalence
Oes geiriau Cymraeg gwahanol yn cael eu harddel am y ddau derm meddygol
yma? Dwi’n meddwl fy mod i’n deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniadau
(gweler y link isod) ond ddim yn gwybod lle i ddechrau gyda dewis geiriau
Cymraeg cyfatebol. Mae ‘mynychder’ yng Ngeiriadur yr Academi ar
gyfer y ddau ohonynt, ond gyda sillafiad gwahanol (yw hyn yn fwriadol?).
Tra ’mod i wrthi beth yw ‘Established Renal Failure’ hefyd – mae’r cyfan yn digwydd yn yr un frawddeg erchyll
isod :
In
contrast to the majority of hospital services, managing a ‘Renal
Medicine’ service is driven by prevalence (of Established Renal Failure)
rather than incidence of disease.
Mae eglurhad da iawn o’r gwahaniaeth rhwng y ddau i’w weld
yma: http://www.rcn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/9216/Incidence_prevalence.pdf
Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni,
Iwan