Oes geiriau Cymraeg gwahanol yn cael eu harddel am y ddau derm meddygol yma? Dwi'n meddwl fy mod i'n deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniadau (gweler y link isod) ond ddim yn gwybod lle i ddechrau gyda dewis geiriau Cymraeg cyfatebol. Mae 'mynychder' yng Ngeiriadur yr Academi ar gyfer y ddau ohonynt, ond gyda sillafiad gwahanol (yw hyn yn fwriadol?). Tra 'mod i wrthi beth yw 'Established Renal Failure' hefyd - mae'r cyfan yn digwydd yn yr un frawddeg erchyll isod : In contrast to the majority of hospital services, managing a 'Renal Medicine' service is driven by prevalence (of Established Renal Failure) rather than incidence of disease. Mae eglurhad da iawn o'r gwahaniaeth rhwng y ddau i'w weld yma: http://www.rcn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/9216/Incidence_prevalence.pdf Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni, Iwan