Print

Print


Er gwybodaeth - rydyn ni'n rhoi'r holl eiriaduron termau safonedig ryn ni'n eu cynhyrchu yn y Porth Termau hefyd.

Mae hwnnw'n hwylus i gyfieithwyr felly rhag gorfod edrych mewn nifer o dermiaduron gwahanol. Ond mae cyrff yn aml eisiau eu gwefannau eu hunain hefyd ac mae modd rhoi deunydd atodol yno, gwybodaeth gefndir, canllawiau ac ati. Dyna sy'n digwydd yn achos Y Termiadur Addysg.

Bydd llawer o dermau newydd yn cael eu hychwanegu at Y Termiadur Addysg yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys meysydd newydd galwediagethol fel Technoleg Cerdd, Trin Gwallt, Adeiladwaith, Gofal Plant, a bydd y rhain i'w gweld drwy'r Porth Termau hefyd.

Ond bydd y deunyddiau atodol i'w gweld ar wefan y project ei hun - gwefan sydd wedi'i hanelu at blant a myfyrwyr, rhieni, ac athrawon yn fwy na chyfieithwyr.

Delyth




Ysgrifennodd Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services):
[log in to unmask]" type="cite">
Onid yr un Termiadur sy'n rhan o'r Porth Termau yn barod yw hwn?

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 22 Mawrth 2012 08:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: termau addysg

Da ynde!
Rhian

-----Original Message-----
From: Sian Roberts
Sent: Thursday, March 22, 2012 7:58 AM
To: [log in to unmask]
Subject: termau addysg

Bore da - ac mae yn fore da iawn yng Nghymru!

Newyddion ardderchog i bobl fel fi sy'n ceisio osgoi cyfieithu stwff addysg achos yr holl jargon -

http://www.termiaduraddysg.org/

Dw i wedi dysgu'n barod bod gwahaniaeth rhwng "arsyllu" ac "arsylwi"!

Da iawn

Siân 
  


-- 
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office. www.bangor.ac.uk