Print

Print


Efallai y byddai'n well cadw at STOP felly.

Rhywbeth fel  - 'styried, trafod, opsiynau, peidio
Dim yn ddelfrydol ond yn fan cychwyn!

Sori - Ishe brecwast cyn mynd ar gwrs Cymdeithas Cyfieithwyr.

Siân

 


On 23 Mawrth 2012, at 07:32, Rhian Huws wrote:

Ewadd, da iawn rwan! Fe holai’r cwsmer  i weld a fydd hwn yn gweithio ym mhob cyd-destun. O ddarllen y datganiad cyfan, mae’n debyg bod na bosteri efo arwydd a’r gair ‘Stop’ arno fo, a llun o Ganwla a chathetr ar ffurf cymeriadau cartwn (the mind boggles!), a’r geiriau ‘Does your patient need us?’.
Diolch eto .
Rhian
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf OfSian Roberts
Sent: 23 March 2012 06:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: S.T.O.P
 
 
Fyddai "Dim" yn gweithio ar gyfer y D?  Rhywbeth fel "A'r nod?  Dim heintiau cysylltiedig â gofal iechyd"
 
Efallai y byddai "Iawn" yn gwneud ar gyfer yr "I" - Rhywbeth fel "Ystyriwch y dewisiadau'n ofalus er mwyn canfod yr un Iawn" ?
 
Rhywbeth i weithio arno, beth bynnag
 
On 23 Mawrth 2012, at 02:34, Gareth Jones wrote:


O ddewis P.A.I.D. byddai ‘Pwyllwch’ yn ddewis addas ar gyfer y gair cyntaf. Pwyllwch i ystyried a oes angen y teclyn. Efallai y byddai ‘Arhoswch’ yn gwneud y tro fel yr ail un. Does gen i’r un awgrym ar gyfer y ddau arall, yn anffodus.
 
From: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">Rhian Huws
Sent: Thursday, March 22, 2012 9:09 PM
To: [log in to unmask]" style="color: blue; text-decoration: underline; ">[log in to unmask]
Subject: Re: S.T.O.P
 
Na, does dim rhaid cael ‘stop’ yn Gymraeg. Mae modd bod yn greadigol….gan obeithio bod gan rhywun fwy o ysbrydoliaeth na fi!
 
Wedi ceisio chwarae gyda’r pethau amlwg:
 
Aros/Oedi
Meddwl/Ystyried
Opsiynau/Dewisiadau
Atal/Rhwystro
 
Ond yn ofer…
 
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf OfAnn Corkett
Sent: 22 March 2012 20:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: S.T.O.P
 
Oes rhaid i’r gair “Cymraeg” fod yn “Stop” hefyd?  Ynteu a oes modd chwarae o gwmpas ag “Aros”, “Oedi”, “Paid” a phethau felly?
Ann

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf OfRhian Huws
Sent: 22 March 2012 19:51
To: [log in to unmask]
Subject: S.T.O.P
 
Noswaith dda
 
Pwnc difyr ar nos wener – Catheters a cannulas sydd dan sylw.
 
Enw ar ymgyrch newydd yn y GIG; Stop, Think, Options, Prevent. Rhaid i’r geiriau ddod yn yr union drefn honno oherwydd mae’n disgrifio proses:
 
Stop and ask is the device needed, Think and give attention to detail, focus on Options and consider alternatives. This will Preventhealthcare associated infections.
 
Enghraifft berffaith o greu enw clyfar yn Saesneg heb feddwl am ddwyieithrwydd!
 
Yn falch o unrhyw help /ysbrydoliaeth – a gorau po gyntaf gan eu bod nhw isho hwn ddoe....!
 
Diolch ymlaen llaw
 
Rhian
 
 
Rhian Huws
Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL
Ffôn/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492