Na, does dim rhaid cael ‘stop’ yn Gymraeg. Mae modd bod yn greadigol….gan obeithio bod gan rhywun fwy o ysbrydoliaeth na fi!
Wedi ceisio chwarae gyda’r pethau amlwg:
Aros/Oedi
Meddwl/Ystyried
Opsiynau/Dewisiadau
Atal/Rhwystro
Ond yn ofer…
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 22 March 2012 20:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: S.T.O.P
Oes rhaid i’r gair “Cymraeg” fod yn “Stop” hefyd? Ynteu a oes modd chwarae o gwmpas ag “Aros”, “Oedi”, “Paid” a phethau felly?
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 22 March 2012 19:51
To: [log in to unmask]
Subject: S.T.O.P
Noswaith dda
Pwnc difyr ar nos wener – Catheters a cannulas sydd dan sylw.
Enw ar ymgyrch newydd yn y GIG; Stop, Think, Options, Prevent. Rhaid i’r geiriau ddod yn yr union drefn honno oherwydd mae’n disgrifio proses:
Stop and ask is the device needed, Think and give attention to detail, focus on Options and consider alternatives. This will Prevent healthcare associated infections.
Enghraifft berffaith o greu enw clyfar yn Saesneg heb feddwl am ddwyieithrwydd!
Yn falch o unrhyw help /ysbrydoliaeth – a gorau po gyntaf gan eu bod nhw isho hwn ddoe....!
Diolch ymlaen llaw
Rhian
Rhian Huws
Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL
E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask]
Ffôn/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492
www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk