Helo,
Dwi wastad yn cael trafferth efo "ar wahân" yn
yr ystyr separate (h.y. fel ansoddair)
Os ydw i'n deud fy mod i'n cadw tocyn ar wahân
i Wil, mae hynny i fi yn darllen fel "a ticket apart from Wil" neu "other
than Wil" (dydi hwn ddim yn enghraifft arbennig o dda, ond...)
Dwi isio deud "tocyn ar-wahân i Wil" efo
cysylltnod, i ddangos mai ansoddair ydi'r "ar wahân" yma ac nid ymadrodd.
Oes yna rywbeth o'i le ar roi "ar-wahân" yn y cyswllt yma? Mae ynganiad y
ddau yn sicr yn wahanol.
Mi fedrwn ddeud "tocyn gwahanol", ond dydi'r
tocyn ddim yn wahanol i'r lleill, neu "neilltuol", ond does dim byd
neilltuol amdano!
Help!
Geraint