Print

Print



Y dewis gorau - caglau.
 
Ail orau - gwallt rhaffau
 
Dwi ddim yn gweld "crychgydynnau" yn ennill ei blwy rywsut - pa mor anfachog fedr gair fod?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 05, 2012 7:05 PM
Subject: Re: Dreadlocks

Wel, mae’n debyg bod gan Brychan Llyr hawl i ddweud hynny amdano fo ei hun, ac fel mab i ffermwr, efallai ei fod yn gwybod am ddefnydd ychydig yn wahanol i’r gair, ond yn ol Geiriadur y Brifysgol, nid y gwlan budr yw’r cagl[-au], ond y baw ei hun - “tom neu faw, yn enwedig baw defaid a geifr, baw neu laid wedi caledu ar goesau creaduriaid neu ar hyd dillad a godre trowsus.

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 05 March 2012 18:18
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Dreadlocks

 

Ateb hwyr braidd (ac wn i ddim faint o werth!) ond mae gen i ryw gof mai "cagle" oedd Brychan Llŷr yn galw'i rai e! Chewch chi ddim Cymreiciach na hynny, ond mae'n dibynnu pa mor "fachog" ydech chi am fod Meg!

 

Osian

 

 

 

 

2012/3/5 MEG ELIS <[log in to unmask]>

Gair bachog am y rhain, plis?

Diolch ymlaen llaw