Y dewis gorau - caglau. Ail orau - gwallt rhaffau Dwi ddim yn gweld "crychgydynnau" yn ennill ei blwy rywsut - pa mor anfachog fedr gair fod? ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Monday, March 05, 2012 7:05 PM Subject: Re: Dreadlocks Wel, mae’n debyg bod gan Brychan Llyr hawl i ddweud hynny amdano fo ei hun, ac fel mab i ffermwr, efallai ei fod yn gwybod am ddefnydd ychydig yn wahanol i’r gair, ond yn ol Geiriadur y Brifysgol, nid y gwlan budr yw’r cagl[-au], ond y baw ei hun - “tom neu faw, yn enwedig baw defaid a geifr, baw neu laid wedi caledu ar goesau creaduriaid neu ar hyd dillad a godre trowsus. Ann ------------------------------------------------------------------------------ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys Sent: 05 March 2012 18:18 To: [log in to unmask] Subject: Re: Dreadlocks Ateb hwyr braidd (ac wn i ddim faint o werth!) ond mae gen i ryw gof mai "cagle" oedd Brychan Llŷr yn galw'i rai e! Chewch chi ddim Cymreiciach na hynny, ond mae'n dibynnu pa mor "fachog" ydech chi am fod Meg! Osian 2012/3/5 MEG ELIS <[log in to unmask]> Gair bachog am y rhain, plis? Diolch ymlaen llaw