Cytuno, a Sian wedi'i gyfleu'n well nag y baswn i.

Anna

2012/3/22 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Mae'r ddau'n iawn.
Fel pennawd, dwi'n meddwl y byddai "Adnabod eich afon" yn iawn.
Gallech ddefnyddio'r "chi" i roi pwyslais neu i swnio'n fwy anffurfiol mewn brawddeg.

Mater o reddf yw e lot dwi'n meddwl:

Mae angen trwsio'ch pibellau dŵr oer.
Mae angen i ni ddod i'ch tŷ chi.
Mae angen newid y bibell yn eich ardal chi.


Siân


On 22 Mawrth 2012, at 09:41, Howard Huws wrote:

Alla'i ofyn eich cymorth chi i dorri dadl? Mae angen cyfieithu'r slogan "Knowing your river". Mae rhai'n ffafrio "Adnabod eich afon chi": mae eraill yn mynnu bod "eich afon chi" yn anghywir, ac y dylid defnyddio "Adnabod eich afon". Wela'i fawr o wahaniaeth.