"Anthony Blackburn a John Hancock oedd y cyntaf yno pan oedd
Mr Humphries wedi disgyn ar y llain sboncen ar ôl cael trawiad ar y galon."

". Anthony Blackburn and John Hancock were first on scene when
Mr Humphries collapsed on the squash court with a heart attack."

http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/136/April2004siren.pdf 

"Gall achosi cwymp (collapse) sydyn a
marwolaeth gyflym"

http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/12099.pdf

"He would probably have said that he did not administer all 10mg but had paused to observe its effect, which was satisfactory, for a few moments until Mrs Overton had suddenly collapsed."

"http://www.shipman-inquiry.org.uk/5r_page.asp?ID=4663"

"Byddai siŵr o fod wedi dweud na roddodd y cyfan o’r 10mg iddi, ond ei fod wedi oedi i weld ei effaith, a oedd yn foddhaol, am rai eiliadau nes i Mrs Overton lewygu’n sydyn."

http://www.shipman-inquiry.org.uk/5rw_page.asp?id=5853


2012/3/19 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Rwy'n cyfieithu llyfryn i'r cyhoedd yn sôn am afiechydon y galon - trawiad ar y galon/methiant y galon. Mae darn am gymorth cynta yn dweud "What to do if someone collapses".

Wela i ddim byd addas yn y geiriaduron am "collapse":
GyrA: cwympo, syrthio, disgyn, ... (of person): llewygu, mynd i lewyg, N: cael gwasgfa, S:occ: cael haint, pango (of patient): diffygio, gwanhau
Porth Termau: ymgwympo

Dwi'm yn ddigon siwr beth yn union yw cael "gwasgfa" (Gog.) ac, ar bapur, byddai "cael haint" yn swnio fel cael "infection".

Rwy'n sylwi bod y newyddion yn dweud mai "llewygu" wnaeth y peldroediwr dydd Sadwrn - ond i mi "faint" yw "llewygu" - When you faint, you will feel weak and unsteady before passing out for a short period of time, usually only a few seconds...

Fyddai "cwympo'n anymwybodol" yn cyfleu'r ystyr? - dwi ddim yn siwr oes raid i chi fod yn anymwybodol, chwaith

"Colapsio", am wn i, fyddai'n cyfleu'r ystyr gliriaf i bobl. Ie?

Diolch

Siân