Diolch i bawb. Mae’n amlwg na fedra i ddim chware ā’r gair ‘da = good’, y tro ‘ma, felly. Byddai’n ddiddorol gwybod beth yw cwmpas y gair ‘da= gwartheg’, er hynny – rhyw getyn gwlyb arall, debyg!
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 15 March 2012 14:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Gwartheg
Dydw innau ddim yn gwybod am ardal Wrecsam, ond mae'n debyg bod pobl mewn rhai rhannau o Glwyd - tua Rhuallt? - yn dweud
"catal"
Difyr - os nad defnyddiol!
Siān
On 15 Mawrth 2012, at 13:55, megan tomos wrote:
Er nad wyf yn dod o Wrecsam, Mary, ond o Gorwen, gwartheg fydden ni'n ei ddweud yn Edeyrnion. Byddai da yn air diarth iawn i ni.
Megan
From: Mary Jones <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, 15 March 2012, 13:46
Subject: Gwartheg
Cwestiwn arall i bobol ardal Wrecsam, Rhos, os gwelwch chi’n dda. Fyddwch chi’n defnyddio’r gair ‘da‘ am wartheg? Ynte ‘gwartheg’ ydyn nhw’?
Diolch
Mary