Diolch i bawb. Mae’n amlwg na fedra i ddim chware â’r gair ‘da = good’, y tro ‘ma, felly. Byddai’n ddiddorol gwybod beth yw cwmpas y gair ‘da= gwartheg’, er hynny – rhyw getyn gwlyb arall, debyg! Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 15 March 2012 14:39 To: [log in to unmask] Subject: Re: Gwartheg Dydw innau ddim yn gwybod am ardal Wrecsam, ond mae'n debyg bod pobl mewn rhai rhannau o Glwyd - tua Rhuallt? - yn dweud "catal" Difyr - os nad defnyddiol! Siân On 15 Mawrth 2012, at 13:55, megan tomos wrote: Er nad wyf yn dod o Wrecsam, Mary, ond o Gorwen, gwartheg fydden ni'n ei ddweud yn Edeyrnion. Byddai da yn air diarth iawn i ni. Megan From: Mary Jones <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, 15 March 2012, 13:46 Subject: Gwartheg Cwestiwn arall i bobol ardal Wrecsam, Rhos, os gwelwch chi’n dda. Fyddwch chi’n defnyddio’r gair ‘da‘ am wartheg? Ynte ‘gwartheg’ ydyn nhw’? Diolch Mary