On Wed, 14 Mar 2012 17:45:38 +0000, Sian Roberts <[log in to unmask]>: Does gen i ddim cefndir tafodieithol i dynnu arno yn anffodus. Wedi holi 'nhad ( Cwmtawe ) ces i'r ateb canlynol: 'Migwrn yw'r unig air wy'n gwybod am "ankle" ond wastod dweud "pigwrn".' Ynglyn a Chymry Cymraeg ces i syrpreis unwaith i glywed brodor o'r ardal yn defnyddio'r gair 'pry copyn' yn lle'r 'corryn' disgwyliedig wrth siarad ag un o'r plant. Ai dyna'r gair roedd e'n arfer ei ddweud gartref? 'Na - 'sbeidyr' ro'n ni'n ei weud gartref' >Felly fyddech chi'n dweud "dy figwrn" ac "ei figwrn"? Mae'n swnio'n >rhyfedd i mi. > >Ond yn well na'r hen wraig - Cymraes Gymraeg naturiol yn eu >hwythdegau a ofynnodd i ni "Glywsoch chi am Beti? Mae 'di >ffractiyrio'i hancl"! > >Diolch > >Si�n > > > > >On 14 Mawrth 2012, at 17:32, Neil Shadrach wrote: > >> Heb weld 'pigwrn' o'r blaen. Dim ond 'migwrn' a 'ff�r'. >> >> 2012/3/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> >> Oes 'na bobl yn dweud "migwrn" am "ankle"? >> >> Wrth gyfieithu darn ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, fe wnes i >> ddefnyddio "pigwn/ff�rr" gan feddwl y byddai hynny'n ddealladwy i >> bawb. Mae'r golygydd wedi'i gywiro i "migwrn" - ond fyswn i, yn >> bersonol, ddim yn gyfarwydd � hwnnw. >> Yn �l y geiriaduron, gair y de-orllewin yw "pigwrn". Felly, os yw >> pobl y de-ddwyrain yn dweud "migwrn" fe wna i dderbyn y cywiriad. >> >> Diolch >> >> Si�n >> > >