Heb weld 'pigwrn' o'r blaen. Dim ond 'migwrn' a 'ffêr'. 2012/3/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Oes 'na bobl yn dweud "migwrn" am "ankle"? > > Wrth gyfieithu darn ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, fe wnes i > ddefnyddio "pigwn/ffêrr" gan feddwl y byddai hynny'n ddealladwy i bawb. > Mae'r golygydd wedi'i gywiro i "migwrn" - ond fyswn i, yn bersonol, ddim > yn gyfarwydd â hwnnw. Yn ôl y geiriaduron, gair y de-orllewin yw "pigwrn". Felly, os yw pobl y > de-ddwyrain yn dweud "migwrn" fe wna i dderbyn y cywiriad. > > Diolch > > Siân >