Print

Print


Mi fasa ffer yn llawer mwy naturiol i mi, er y baswn i'n dallt y gair migwrn. Sori, dim lot o help!

Anna

2012/3/14 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Oes 'na bobl yn dweud "migwrn" am "ankle"?

Wrth gyfieithu darn ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, fe wnes i ddefnyddio "pigwrn/ffêr" gan feddwl y byddai hynny'n ddealladwy i bawb.  Mae'r golygydd wedi'i gywiro i "migwrn" - ond fyswn i, yn bersonol, ddim yn gyfarwydd â hwnnw.
Yn ôl y geiriaduron, gair y de-orllewin yw "pigwrn". Felly, os yw pobl y de-ddwyrain yn dweud "migwrn" fe wna i dderbyn y cywiriad.

Diolch

Siân