Oes gan rywun gynnig am 'infiltrate' os gwelwch yn dda (h.y. ymuno ā mudiad er mwyn sbio arnyn nhw)
Mae GyA yn rhoi "sleifio (i mewn)" ond dwi ddim yn meddwl bod hynna'n cyfleu'r peth o gwbwl. Hynny yw, mi fedra i sleifio i mewn i'r capel ar ol cyrraedd yn hwyr ond fyswn i ddim yn deud fy mod yn inffiltretio'r capel!
Taswn i am inffiltretio unrhyw sefydliad mi fyswn yn cerdded i mewn yn normal fatha pawb arall, fysa sleifio i mewn ddim ond yn gwneud i bobl fy amau i'n syth.
Dwi'n meddwl am 'ymdreiddio' o bosib, os nad oes gan rywun gynnig gwell.
Diolch
Geraint