Credu mod i wedi defnyddio ‘cyffuriau cyfreithlon’ o’r blaen, OND roedd yna ddiffiniad e.e. ‘legal highs are substances which cause the same, or similar, effects to drugs like cocaine…etc’, felly mae’n dibynnu ar y cyd destun. Fel y dywedodd rhywun yn y drafodaeth flaenorol, mae ‘paracetamol’ yn gyffur cyfreithlon.
Ar nodyn arall, os yw aelodau’r cylch wedi mynd i drafferth i chwilio’r archifau neu edrych mewn gwahanol eiriaduron am derm y mae rhywun yn holi yn ei gylch, pam na allwch chi ddweud beth yw’r ateb yn hytrach na ‘Edrychwch yn llyfr a’r llyfr’ neu ‘trafodwyd hyn yn nineteen-o-scratch’! Helpu’n gilydd yw’r nod wedi’r cyfan, ac falle bod rheswm da pam nad yw’r ymholwr/wraig wedi edrych yn y ffynonellau hyn ei hun.
Diolch yn fawr
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 13 March 2012 14:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: legal highs
Fe drafodwyd hyn ym mis Hydref.
Cyd-destun: cyffuriau
Unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda?