Newydd weld y pwt ar Stockbridge a’r darn bach ola –AAAAAAAARGH!
Sdim diwedd ar hwn oes e!!
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Ann Corkett
Sent: 29 March 2012 14:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: scrapes
Mae’r llun ar dudalen y Gymdeithasol Frenhinol Gwarchod
Adar, lle cafodd Nia ei diffiniad, yn dangos yn glir pa fath o le sydd dan
sylw. Beth sydd yn aneglur, er gwaetha’r ffaith bod y tudalen yn son am
sut i *greu* scrapes, ydy, a yw
pob “scrape” yn rhywbeth a grewyd trwy grafu’r pridd i greu pant, er bod
hynny’n swnio’n debygol. Wedi gwastraffu llawer o amser, byddwn i’n
cytuno bod eich cynnig cyntaf, “pantiau llaith” yn ddisgrifiad da, nes i rywun
ddod ar draws term mwy penodol.
Ydy, mae Stockbridge yn werth edrych
Mae’n ddrwg gen i am yr “’ysgyfarnog”!
Ann
From:
Sent: 29 March 2012 14:14
To:
[log in to unmask]
Subject: ATB/RE: scrapes
Rwyf wedi bod yn gwglan ac mae’n debyg
bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn defnyddio
‘pantiau llaith’. Mae Ann yn llygad ei lle yn sôn am wâl yng nghyd-destun
ysgyfarnogod (ac o ran diddordeb teipiwch ‘gwal cysurus Stockbridge’ yn Google
a dewis ‘lluniau’ i weld beth gewch chi). Yn ei hanfod lle cysurus neu le
diogel i lechu ynddo yw gwâl, ond mae’r ‘scrape’ sydd dan sylw yma yn hollol
wahanol. Gan fod ein cynefinoedd llaith yn prysur ddiflannu yn fynych defnyddir
Jac Codi Baw i greu’r ‘scrapes’ hyn a’r diben yw creu mân gynefin llaith ac nid
gwâl gysurus.
Hwyl
Llŷr
From:
Sent: 29 March 2012 13:49
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: scrapes
Beth am ‘gwalau llaith i fywyd gwyllt’ gan fod yr elfen
‘llaith’ yn bwysig?
From:
Sent: 29 March 2012 13:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: scrapes
GPC: gwa^l: gorweddle creaduriaid (gwyllt
a gwa^r); lloches; ffau; gwasarn; gwely, mainc, glwth, hefyd yn ffig.; lair,
cover, den, litter, couch, bed, also ffig, ac ymlaen.
Hares shelter in a 'form', a shallow scrape in
the ground
Ceir
“gwa^ll” dan “form (8) yng GyrA hefyd, felly byddwn i’n meddwl bod y gair yn un
delfrydol.
Gyda
llaw, cyngor gwraig ffermwr - ar linellau “bran i bob bran yn rhywle”:
Gorwedd
yn dy wely,
Llecha
yn fy wa^l:
Sawl
sydd ar dy gyfer
‘Rwyt
ti’n siw^r o ga’l.
Ann
From:
Sent: 29 March 2012 09:47
To: [log in to unmask]
Subject: scrapes
Bore da. Oes gair Cymraeg cyfatebol i ‘wildlife
scrape’? Wedi chwilio gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd ond wedi methu.
Mae GyA yn cynnig ‘gwâl/gwalau’ ar gyfer anifeiliaid
megis ysgyfarnog etc, ond ai’r un peth yw hynny?
Dyma ddiffiniad:
Scrapes are shallow
depressions with gently
sloping edges, which
seasonally hold water. They
create obvious in-field wet
features that are very
attractive to wildlife.
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If
you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the
following address:
[log in to unmask]
All communications sent to or from the Council may be subject to recording
and/or monitoring in accordance with relevant legislation
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac
at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych
wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y
cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu
fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************