Print

Print


Dwi'n gyndyn i ddefnyddio 'mynychder' am y naill derm na'r llall gan bod cymaint o amwysedd ynglŷn â pha un mae'n ei olygu - mae'n golygu 'incidence' yn ôl TermCymru a'r llyfr 'Termau Meddygol', 'prevalence' yn ôl y Porth Termau, a'r ddau yn ôl Geiriadur yr Academi! 'Nifer achosion' sydd ar TermCymru am 'prevalence' ond fe allai hwnnw hefyd olygu'r naill neu'r llall, ac ar ôl darllen yr esboniad ar wefan yr RCN fe fydden i'n meddwl efallai bod hwnnw'n agosach at 'incidence'. Oes rhywun â chefndir meddygol neu ystadegol a all gadarnhau fy mod wedi deall yr ystyron yn gywir?

Iwan

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 24 Mawrth 2012 03:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Incidence a prevalence

Rwy'n cydweld ag Iwan ond mi fyddwn i'n defnyddio 'mynychder' am 'prevalence:

Yn wahanol i’r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae’r galw am wasanaethau ‘Meddygaeth Arennol’ yn dibynnu ar fynychder clefydau arennol yn hytrach na’r nifer o achosion newydd.

Dafydd 





On Fri, 23 Mar 2012 16:16:05 +0000, Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services) <[log in to unmask]> wrote:

>O beth alla i ei ddeall, mae'r frawddeg yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:
>
>Yn wahanol i'r mwyafrif o wasanaethau ysbyty, mae'r galw am wasanaethau 'Meddygaeth Arennol' yn dibynnu ar y nifer o bobl sydd eisoes yn dioddef o glefydau arennol ar unrhyw adeg, yn hytrach na'r nifer o achosion newydd sy'n codi.
>
>Dwi'n meddwl bod hynna'n weddol agos at gyfleu'r ystyr, ond mae e mor bell oddi wrth y geiriad yn y Saesneg fel fy mod yn gyndyn braidd i'w alw'n gyfieithiad.
>
>Iwan
>
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
>Sent: 23 Mawrth 2012 16:05
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: Incidence a prevalence
>
>Nid yw Bruce yn ymwybodol o unrhyw fwriad y tu ol i'r gwahaniaeth sillafu.  O edrych yn GPC, ceir "mynychder" a "mynychdra" yn unig (nid y fersiynau gyda "t").
>
>Mae'n swnio fel un o'r achlysuron 'na lle nad yw'r Gymraeg wedi gorfod gwahaniaethu mor fanwl o'r blaen.
>
>Gallaf ddeall y disgrifiad o'r wefan - jyst abowt - ond hyd yn oed wedyn ni allaf ddeall y frawddeg sydd gennych yn dda iawn.  'Tasech chi'n medru ei hegluro i mi mewn geiriau eraill, efallai byddech hanner ffordd at gyfieithiad (hyd yn oed os bydd angen rhoi'r geiriau Saesneg mewn cromfachau).
>
>Ann
>________________________________
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)
>Sent: 23 March 2012 14:57
>To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
>Subject: Incidence a prevalence
>
>Oes geiriau Cymraeg gwahanol yn cael eu harddel am y ddau derm meddygol yma? Dwi'n meddwl fy mod i'n deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniadau (gweler y link isod) ond ddim yn gwybod lle i ddechrau gyda dewis geiriau Cymraeg cyfatebol. Mae 'mynychder' yng Ngeiriadur yr Academi ar gyfer y ddau ohonynt, ond gyda sillafiad gwahanol (yw hyn yn fwriadol?).
>
>Tra 'mod i wrthi beth yw 'Established Renal Failure' hefyd - mae'r cyfan yn digwydd yn yr un frawddeg erchyll isod :
>
>In contrast to the majority of hospital services, managing a 'Renal Medicine' service is driven by prevalence (of Established Renal Failure) rather than incidence of disease.
>
>Mae eglurhad da iawn o'r gwahaniaeth rhwng y ddau i'w weld yma: http://www.rcn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/9216/Incidence_prevalence.pdf
>
>Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni,
>
>Iwan
>
>