Mae’r gwallt ar fy nghorun yn prysur brinhau felly rwy’n gofyn y cwestiwn hwn yn betrus iawn. A oes gwahaniaeth rhwng ‘dreadlocks’ (sef math o wallt sy’n cael ei blethu i fod yn fân gudynnau) a chagle sef ffasiwn fwy diweddar, am wn i, lle mae’r gwallt yn cael rhwydd hynt i fod yn gaglog – ac mae cagle yn air byw yn ein hardal ni am yr ail fath? Dim ond gofyn. Rwy’n moeli fy nghlustiau i gael eich ymateb. Hwyl Llŷr From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Osian Rhys Sent: 05 March 2012 18:18 To: [log in to unmask] Subject: Re: Dreadlocks Ateb hwyr braidd (ac wn i ddim faint o werth!) ond mae gen i ryw gof mai "cagle" oedd Brychan Llŷr yn galw'i rai e! Chewch chi ddim Cymreiciach na hynny, ond mae'n dibynnu pa mor "fachog" ydech chi am fod Meg! Osian 2012/3/5 MEG ELIS <[log in to unmask]> Gair bachog am y rhain, plis? Diolch ymlaen llaw