Cudd-dreiddio!

 

Llŷr

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 14 March 2012 11:32
To: [log in to unmask]
Subject: infiltrate

 

Oes gan rywun gynnig am 'infiltrate' os gwelwch yn dda (h.y. ymuno â mudiad er mwyn sbio arnyn nhw)

 

Mae GyA yn rhoi "sleifio (i mewn)" ond dwi ddim yn meddwl bod hynna'n cyfleu'r peth o gwbwl. Hynny yw, mi fedra i sleifio i mewn i'r capel ar ol cyrraedd yn hwyr ond fyswn i ddim yn deud fy mod yn inffiltretio'r capel!

 

Taswn i am inffiltretio unrhyw sefydliad mi fyswn yn cerdded i mewn yn normal fatha pawb arall, fysa sleifio i mewn ddim ond yn gwneud i bobl fy amau i'n syth.

 

Dwi'n meddwl am 'ymdreiddio' o bosib, os nad oes gan rywun gynnig gwell.

 

Diolch

 

Geraint