Credu mod i wedi defnyddio 'cyffuriau cyfreithlon' o'r blaen, OND roedd yna ddiffiniad e.e. 'legal highs are substances which cause the same, or similar, effects to drugs like cocaine.etc', felly mae'n dibynnu ar y cyd destun. Fel y dywedodd rhywun yn y drafodaeth flaenorol, mae 'paracetamol' yn gyffur cyfreithlon. Ar nodyn arall, os yw aelodau'r cylch wedi mynd i drafferth i chwilio'r archifau neu edrych mewn gwahanol eiriaduron am derm y mae rhywun yn holi yn ei gylch, pam na allwch chi ddweud beth yw'r ateb yn hytrach na 'Edrychwch yn llyfr a'r llyfr' neu 'trafodwyd hyn yn nineteen-o-scratch'! Helpu'n gilydd yw'r nod wedi'r cyfan, ac falle bod rheswm da pam nad yw'r ymholwr/wraig wedi edrych yn y ffynonellau hyn ei hun. Diolch yn fawr Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones Sent: 13 March 2012 14:50 To: [log in to unmask] Subject: Re: legal highs Fe drafodwyd hyn ym mis Hydref. From: Alison Reed <mailto:[log in to unmask]> Sent: Tuesday, March 13, 2012 2:46 PM To: [log in to unmask] Subject: legal highs Cyd-destun: cyffuriau Unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda?