Print

Print


Yn ôl be wela' i - does dim gofyn gwahaniaethu rhwng 'hazard' a 'danger', dim ond rhwng 'hazard' a 'risk'.
 
Felly 'risk' = risg, a 'hazard' = perygl.
 
Syml a dealladwy.
 
Geraint
 
Dwi'n dechrau poeni am Iwan efo'i 'garferi' a'i 'hasard' !
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, February 23, 2012 12:53 PM
Subject: Re: hazard

Siarad yn eironig wyt ti, Megan?  ‘Rwy’n dal i deimlo bod angen ddiffinio “risk” a “hazard”, hyd yn oed yn y Saesneg, os bydd y gwahaniaeth yn bwysig yng nghyd-destun y ddogfen.

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 23 February 2012 11:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hazard

 

Ac yna byddai'r ystyr yn ddealladwy i fwy o bobl na'n cylch cyfyng ni.

 

From: Iwan Edgar <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, 23 February 2012, 10:36
Subject: Re: hazard

Yn yr achos hwn, fel yn achos sawl gair arall, pam na allwn ddifa'r "z" a rhoi "s" yna a'i gorffen hi, yn lle bustachu i drio gwneud rhyw agos ati o air. (Mae'r Saesneg wedi dwgyd y gair o'r Ffrangeg "hasard" yn ôl pob tebyg a'r Ffrangeg wedi gael o o Arabeg (neu iaith ddwyreiniol arall).  Siawns fod siaradwyr Cymraeg yn dyall ystyr y gair, heb orfod egluro dim mwy. 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 23 February 2012 10:10
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: hazard

Yn ôl y diffiniadau gan yr HSE mewn gwahanol ddogfennau ar y we, faswn i'n cytuno ag Ann, bod 'Hazard' yn golygu posibilrwydd o berygl.

Carolyn

 

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Reeves
Anfonwyd/Sent: 22 Chwefror 2012 18:19
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: hazard

 

Ar yr un trywydd, (Iechyd a Diogelwch), mae'r term yma'n codi o hyd:

 

'system of work'

 

[...method of working designed to eliminate or reduce risks to health and safety...]

 

Dwi ddim yn gallu gweld cyfieithiad amlwg ar wefan HSE, a heb lwyddo i ddod o hyd i gyfieithiad un man arall chwaith. Unrhyw gynigion?

 

Diolch yn fawr

 

Siân

--- On Wed, 22/2/12, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:


From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
Subject: Re: hazard
To: [log in to unmask]
Date: Wednesday, 22 February, 2012, 17:59

Dyma nodyn sy'n mynd yn ol mor bell fel na allaf gofio ai fi neu rhywun
arall a'i luniodd:
"Mae sawl cyfieithiad ar gyfer "risk". Mae hyn yn dibynnu ar y cyd-destun a
pha mor ffurfiol yw'r ddogfen. Erbyn hyn, mae'n debyg mai "asesiad risgiau"
a ddefnyddir gan lawer ar gyfer "risk assessment". Bu'n rhaid imi gyfieithu
dogfen ... ar Iechyd a Diogelwch, lle 'roedd diffiniad manwl o'r gwahaniaeth
rhwng "hazard"/perygl (rhywbeth a all ddigwydd - possibility) a
"risk"/bygythiad (rhywbeth sy'n debyg o ddigwydd- probability). Bu cryn
trafod cyn dewis y termau Cymraeg a chafodd y defnydd o'r termau Cymraeg a
Saesneg ei egluro ar ddechrau'r ddogfen. Anodd iawn yw cadw at unrhyw fath o
gysondeb wrth ddod ar draws ymadrodd megis hwn, o ddogfen gan sefydliad
arall, "assess the level of risk which those hazards present". Wrth gofio
bod rhywun yn gorfod cyfieithu geiriau megis "threat", "danger", ayb. hefyd,
mae'n debyg mai diffinio termau sydd orau os yw hi'n bwysig bod yn fanwl
gywir mewn dogfen arbennig."

Ann


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 22 February 2012 14:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hazard

Dim ateb. Dim ond nodi bod yr HSE yn defnyddio 'perygl' ar gyfer 'hazard'

http://www.hse.gov.uk/pubns/welsh/indg244w.pdf
http://www.hse.gov.uk/pubns/indg244.pdf

2012/2/22 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> Gwaith i blant ysgol -
> Gofynnir cwestiwn:  "What is a hazard?"
>
> Mae'r diffiniad hwn yn digwydd cynt:
>
> "Hazard - an object or situation that could potentially hurt someone."
>
> Sut mae gwahaniaethu rhwng "hazard" a "danger"?
>
> Diolch
>
> Siân