Print

Print


Gwell gwneud y gair yn gwrywaidd dwi’n meddwl neu mi fydd gwahanol ffurfiau’n codi mewn dogfennau ac ar arwyddion.

 

Mae’r gair yn swnio’n fenywaidd imi hefyd ond dwi’n siwr mai ‘hosbitol’ fyddai pobol yn ei ddweud ers talwm a gair benywaidd oedd hwnnw!

 

gorwel

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)
Sent: 21 February 2012 09:57
To: [log in to unmask]
Subject: Cenedl y gair 'ysbyty'

 

Roeddwn i wastad wedi cymryd yn ganiataol mai ‘yr ysbyty hon’ oedd yn gywir gan mai dyna oeddwn i wedi ei glywed a dyna sydd yn swnio’n ‘iawn’ i mi, ond o edrych mewn geiriaduron a rhestrau termau yn ddiweddar mae’n ymddangos mai gwrywaidd yw ysbyty yn ôl y mwyafrif ohonynt.

 

A yw’r ddau’n gywir? Neu a oes rheswm da i’w roi yn wrywaidd? A beth sy’n swnio’n naturiol ac yn ‘iawn’ i chi ac yn cael ei ddefnyddio? Mae gen i ddogfen i’w chyfieithu a fydd angen naill ai ‘Ysbyty Goffa’ neu ‘Ysbyty Coffa’ yn flaenllaw yn y teitl, felly fe fyddai cael ateb yn ddefnyddiol iawn.

 

Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni,

 

Iwan


--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.