Ysbyty Coffa - gwrywaidd.
 
Fel "t^y" a phob "-ty" arall.
 
Dwi'm yn siwr pam fod pobl yn meddwl ei fod yn fenywaidd.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, February 21, 2012 9:57 AM
Subject: Cenedl y gair 'ysbyty'

Roeddwn i wastad wedi cymryd yn ganiataol mai ‘yr ysbyty hon’ oedd yn gywir gan mai dyna oeddwn i wedi ei glywed a dyna sydd yn swnio’n ‘iawn’ i mi, ond o edrych mewn geiriaduron a rhestrau termau yn ddiweddar mae’n ymddangos mai gwrywaidd yw ysbyty yn ôl y mwyafrif ohonynt.

 

A yw’r ddau’n gywir? Neu a oes rheswm da i’w roi yn wrywaidd? A beth sy’n swnio’n naturiol ac yn ‘iawn’ i chi ac yn cael ei ddefnyddio? Mae gen i ddogfen i’w chyfieithu a fydd angen naill ai ‘Ysbyty Goffa’ neu ‘Ysbyty Coffa’ yn flaenllaw yn y teitl, felly fe fyddai cael ateb yn ddefnyddiol iawn.

 

Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni,

 

Iwan