Ysbyty Coffa - gwrywaidd. Fel "t^y" a phob "-ty" arall. Dwi'm yn siwr pam fod pobl yn meddwl ei fod yn fenywaidd. Geraint ----- Original Message ----- From: Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services) To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, February 21, 2012 9:57 AM Subject: Cenedl y gair 'ysbyty' Roeddwn i wastad wedi cymryd yn ganiataol mai 'yr ysbyty hon' oedd yn gywir gan mai dyna oeddwn i wedi ei glywed a dyna sydd yn swnio'n 'iawn' i mi, ond o edrych mewn geiriaduron a rhestrau termau yn ddiweddar mae'n ymddangos mai gwrywaidd yw ysbyty yn ôl y mwyafrif ohonynt. A yw'r ddau'n gywir? Neu a oes rheswm da i'w roi yn wrywaidd? A beth sy'n swnio'n naturiol ac yn 'iawn' i chi ac yn cael ei ddefnyddio? Mae gen i ddogfen i'w chyfieithu a fydd angen naill ai 'Ysbyty Goffa' neu 'Ysbyty Coffa' yn flaenllaw yn y teitl, felly fe fyddai cael ateb yn ddefnyddiol iawn. Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni, Iwan