Ar eich menter eich hun oeddwn i'n arfer ei ddefnyddio ar gyfer parcio "at your own risk".  Ar eich menter eich hun y byddwch yn cael unrhyw ddeunydd neu gynnwys gennym.  Ond mae'n rhaid imi gyfaddef nad ydw i'n deall y cyd-destun.
 
Megan

From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 15 February 2012, 15:26
Subject: Re: At your own risk

 
Ond sut mae bod yn gyfrifol am rywbeth ‘dych chi wedi rhoi yn nwylo rhywrai eraill?  Wn i ddim a yw hyn yn cyfeirio at e.e. posibilrwydd colli rhywbeth ‘dych chi wedi anfon atynt, ynteu posibilrwydd llen/llun-lladrad neu achos enllib.  Beth am ?? “Ni allwn ni fod yn gyfrifol am ?diogelwch …”
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 15 February 2012 12:46
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: At your own risk
 
Y cyd-destun yw darlledu - 'Any material and content provided is made available at your own risk'. Bosib fyddai 'eich cyfrifoldeb chi' yn gwneud y tro yma. Neu 'Chi sy'n gyfrifol am unrhyw ddeunydd...?
 
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 15 Chwefror 2012 12:21
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: At your own risk
 
Mae "cyfrifoldeb" yn bosib weithiau. "Eich cyfrifoldeb chi yw ..."

Sian
Sent from my BlackBerry® wireless device
From: Carolyn <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Wed, 15 Feb 2012 11:39:49 -0000
ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: At your own risk
 
Erioed wedi llwyddo i gael rhywbeth sy'n taro deuddeg - oes gan rywun ffordd dda o gyfleu hyn?
Diolch
Carolyn