Cartrefi'n gweithio'n dda. Dw i'n meddwl mai'r broblem efo 'eiddo arall' yw y gallai gyfeirio at un adeilad neu lawer. Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gareth Jones Anfonwyd/Sent: 14 Chwefror 2012 17:02 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: properties Mae ‘cartrefi’ yn fwy penodol dwi’n meddwl. Gallai ‘adeiladau’r gymdeithas’ gyfeirio at swyddfeydd y Gymdeithas, er enghraifft. From: anna <mailto:[log in to unmask]> gruffydd Sent: Tuesday, February 14, 2012 4:59 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: properties dwi'n cofio'r un broblem, ond dwi'n yn cofio be benderfynai i yn y diwedd - oes na unrhyw obaith efo adeiladau? Anna 2012/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> Mae "property" (a "premises") yn anodd! Fyddai "cartrefi" yn swnio'n rhyfedd? Ond mae gennych "Cymdeithas Tai Cantref" a "Cymdeithas Tai Eryri" etc er eu bod yn gosod pob math o eiddo. Siân On 14 Chwef 2012, at 16:19, Gareth Jones wrote: Hysbyseb ar gyfer Cymdeithas Tai ydy’r cyd-destun. Mae’n cyfeirio at ‘the association’s other properties’. Fe allwn i ddefnyddio ‘tai eraill y gymdeithas’, ond mae’n cyfeirio at sawl math o eiddo, yn cynnwys tai, fflatiau a llety gwarchodol. Maddeuwch fy anwybodaeth yn hyn o beth, ond a fyddai ‘eiddo arall’ yn addas?