Defnyddio rhif peth a'r peth awgrymodd Anna Corkett dro'n ol dwi'n meddwl. Syniad da Anna 2012/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Weithiau, mae'n well aralleirio a dweud e.e. Dyma lyfr rhif cant pedwar > deg tri yn y gyfres > > Mae "eilfed" yn ddierth i fi > > Siân > > > > On 14 Chwef 2012, at 09:27, Geraint Lovgreen wrote: > > Hwn ydi'r ateb callaf > > VVV > > ----- Original Message ----- > *From:* Dewi Williams <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Monday, February 13, 2012 5:41 PM > *Subject:* Re: Erchyll Broblem y Trefnolion > > Helo Iwan, > * Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg ar gyfer Gwaith a Swyddfa, Ysgol, Coleg a > Chartref,* J. Elwyn Hughes, (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, GOMER, 2006) > Unedau 11.7 - 11.9 > > > 40th pedwar degfed > 41st pedwar deg unfed > 42nd pedwar deg eilfed > 43rd pedwar deg trydydd / trydedd > 44th pedwar deg pedwerydd / pedwaredd > 45th pedwar deg pumed > 46th pedwar deg chweched > 47th pedwar deg seithfed > 48th pedwar deg wythfed > 49th pedwar deg nawfed > 50th pum degfed > 99th naw deg nawfed > 133rd cant tri deg trydydd / trydedd > > Dim cysylltnodau > > Dewi > ------------------------------ > Date: Mon, 13 Feb 2012 15:50:44 +0000 > From: [log in to unmask] > Subject: Erchyll Broblem y Trefnolion > To: [log in to unmask] > > Codi trafodaeth - trafodaeth sydd wedi bod yn barod o bosib' - be' wneir > â'r rhein? > > Mi wn yn iawn be' ydy' hen ddull. Yn gam neu'n gymwys hyd yn oed wrth > siarad pob dydd mae'n anodd deud fod rhywun yn yn "drydydd ar ddeg ar > hugain wedi'r cant" yn hytrach na deud bod rywun yn "hyndryd and thyri > thyrd". (Mae hyn yn rhannol am fod yr iaith wedi dirywio, a'r hen ddull > cyfri' yn cael ei ddefnyddio'n rhannol yn unig). Mae deud "safle cant tri > deg tri" yn swnio'n blastig, ond wedyn mae "cant tri-deg-trifed" yn dra > chwithig. Wrth ddefnyddio "-fed" mae'n haws hefo rhai rhifau.2,3,4 ydy'r > mwyaf trwsgl yn enwedig am fod pedwar yn ddeusill. Mae > "pedwar-deg-pedwarfed" yn o anodd i'w dreulio tra "pedwar-deg-wythfed" yn > well. Y rheswm am hynny mae'n siŵr yw mai "-ydd" fyddai hefo 3 a 4. A > ddylid cynnig llunio "pedwar-deg-pedwerydd" ? - ydy mae hwnna'n swnio'n > gloff ond fymryn yn well na "phedwar-deg-pedwarfed". Ond beth am 2? > "Pedwar-deg-daufed/deufed" "pedwar-deg-ail" - swnio'n ddifrifol. Ynteu > dychwelyd i gragen buryddol ddiogel, a theimlo bod rhywun yn siarad fel > llyfr ? Problemau iaith sy'n dirywio ? > > Cyfieithu traethiadau am rasys sydd wedi peri gyrru'r druth hon. (Nid wyf > yn disgwyl ateb terfynol.) > > >