Print

Print


Ond yn GPC ceir y ferf "hustyngaf" ac enw "husting"

Benthyciad o'r Saesneg Canol "husting" sy'n golygu "deliberative assembly"  - mae hefyd yn sôn am ddylanwad geiriau mewn Hen Norwyeg a Hen Ffrangeg sy'n golygu "sŵn mawr, twrw";  ac wedyn "sibrwd, sisial, mwmian; athrodi, absennu, grwgnach (am) - muttering, slander, backbiting"

O diar!! Dydi hi ddim yn argoeli'n dda!!

Siân




On 9 Chwef 2012, at 15:27, Geraint Lovgreen wrote:

O diar! Mae'n beryg fod y Blaid wedi dilyn cam-deip yn y Geiriadur felly.
 
Hystingau ydw i wedi'i weld gan amlaf. A dyna sydd fwyaf cyffredin wrth Wglo.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">CATRIN ALUN
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, February 09, 2012 3:22 PM
Subject: Hustings

 Ar wefan Plaid Cymru mae 'hustyngau' yn cael ei ddefnyddio - o'n i'n meddwl falle fod camdeipio wedi digwydd, gan na fyddai neb yn ynganu'r gair felly (fydda na?) - ond dyna sy yng NgyA (t701).
 
Tybed, tybed oes na bosbilrwydd mai camargraffu am 'hystungau' (neu 'hystingau' hyd yn oed) sydd yma - gan mai dyna fyddai'n adlewyrchu'r ynganiad.
 
Catrin