Mae'n bosib - er mai rhywbeth seicolegol yw e - math o ymateb (affaith cas/annymunol). Mae'r gwaith sy gen i yn ymwneud ag arfer adferol (restorative practices), yn arbennig yng nghyd-destun ysgolion a delio â chythrwfl a chweryla ymhlith disgyblion a hyd yn oed ymosodiadau. Un rhan o'r gwaith yw'r dadansoddiad seicolegol (o fath!), lle mae athrawon/plant yn ceisio dadansodd/deall yr hyn sydd wrth wraidd eu gweithredoedd. Cymhleth tu hwnt!! ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lewis Sent: 08 February 2012 18:08 To: [log in to unmask] Subject: Re: dissmell maes seicoleg/seicotherapi A yw 'gwep' yn rhywbeth y gellir adeiladu arno? ________________________________ Date: Wed, 8 Feb 2012 11:36:52 +0000 From: [log in to unmask] Subject: dissmell maes seicoleg/seicotherapi To: [log in to unmask] Gair a fathwyd gan y seicolegydd SS Tomkins yng nghyd-destun y naw affaith ('the nine physiological mechanisms') sy'n gynhenid ynom i gyd, meddai. Help! Dw i'n deall y cysyniad, dw i'n meddwl. Mae'n perthyn yn agos i 'disgust' a sut mae'r corff/wyneb yn cyfleu teimladau ac yn y blaen ac sy'n sail (neu'n gonglfaen yn ôl Tomkins) i ragfarn ac yn y blaen. Tybed all y Cylch fathu term tebyg?!! ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã'r ddeddfwriaeth berthnasol *******************************************************************