Roeddwn i’n amau mai dyna fyddai’r ateb, dim ond ei fod yn swnio’n od i mi (ac i sawl person yr holais i am y peth). Ond os yw ‘yr ysbyty hwn’ yn swnio’n iawn i’r mwyafrif ac yn cael ei ystyried yn fwy cywir, mae’n siŵr mai dyna fydda i’n ei ddefnyddio o hyn ymlaen. Iwan From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 21 Chwefror 2012 10:15 To: [log in to unmask] Subject: Re: Cenedl y gair 'ysbyty' Ysbyty Coffa - gwrywaidd. Fel "t^y" a phob "-ty" arall. Dwi'm yn siwr pam fod pobl yn meddwl ei fod yn fenywaidd. Geraint ----- Original Message ----- From: Iwan Williams (ABM ULHB - Corporate Services)<mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> Sent: Tuesday, February 21, 2012 9:57 AM Subject: Cenedl y gair 'ysbyty' Roeddwn i wastad wedi cymryd yn ganiataol mai ‘yr ysbyty hon’ oedd yn gywir gan mai dyna oeddwn i wedi ei glywed a dyna sydd yn swnio’n ‘iawn’ i mi, ond o edrych mewn geiriaduron a rhestrau termau yn ddiweddar mae’n ymddangos mai gwrywaidd yw ysbyty yn ôl y mwyafrif ohonynt. A yw’r ddau’n gywir? Neu a oes rheswm da i’w roi yn wrywaidd? A beth sy’n swnio’n naturiol ac yn ‘iawn’ i chi ac yn cael ei ddefnyddio? Mae gen i ddogfen i’w chyfieithu a fydd angen naill ai ‘Ysbyty Goffa’ neu ‘Ysbyty Coffa’ yn flaenllaw yn y teitl, felly fe fyddai cael ateb yn ddefnyddiol iawn. Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni, Iwan