Print

Print


'Rwyf wedi mynd trwy bob defnydd o "responsibility to" ar y tudalen hwnnw, a
dyma'r canlyniad:
gyfrifoldeb i Gymru
cyfrifoldeb tuag at gleifion.
gyfrifoldeb i Ganolfan Mileniwm Cymru
i ddatganoli cyfrifoldeb am gydraddoldeb i'r Cynulliad.
cofiwch am eich cyfrifoldeb at y gymuned
ei chyfrifoldeb i gerddorion ifanc.
cyfrifoldeb arbennig i'r sector BbaChau
nid yw hynny'n trosglwyddo cyfrifoldeb oddi wrthynt hwy a'u hymgynghorwyr
proffesiynol i ni.
bod gennym gyfrifoldeb tuag at y bobl 

Byddwn i'n dal i ddweud mai "i" sy'n mynd a hi, ond mai ychydig yw'r defnydd
o "responsbility to" yn yr ystyr arbennig hwnnw sydd. Gwelaf fod
"accountability to" yn llawer mwy cyffredin, ac er nad wyf wedi darllen hyd
at y diwedd, gwelais " atebolrwydd i" bob tro.

Mae chwilio am "responsible to" hefyd yn ildio "i" bob tro, cyhyd a
darllenais i.

Tybed a yw "I am responsible to X" yn llawer mwy cyffredin yn Saesneg, ac yn
llawer mwy naturiol, nag y mae "I have a responsibility to"?  Efallai bod
cyfieithwyr yn petruso oherwydd ei fod yn beth newydd, ond o ddilyn
patrymau'r gorffennol a defnyddio "i", ni welaf anhawster.

Ann


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 24 February 2012 14:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: responsibility to

Mae cysefin/hebog yn cynnig 'cyfrifoldeb tuag at gleifion' am 
'responsibility to patients'.

-----Original Message----- 
From: Jones,Sylvia Prys
Sent: Friday, February 24, 2012 2:11 PM
To: [log in to unmask]
Subject: Re: responsibility to

Gareth Jones wrote:
> A yw'r ddau'n gywir, efallai?
> -----Original Message----- From: Rhian Jones Sent: Friday, February 24, 
> 2012 1:45 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: 
> responsibility to
> A dw i'n siwr mai 'mae gennych chi gyfrifoldeb i'r ysgol' neu 'i'ch teulu'

> fyddwn i'n ei ddweud hefyd, nid at.
> Rhian
>
> -----Original Message----- From: Howard Huws
> Sent: Friday, February 24, 2012 1:35 PM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: responsibility to
>
> "Cyfrifoldeb at", ddywedwn i.

Rydw i wedi gwerthfawrogi'r adnodd newydd 'Cysefin/Hebog" sydd wedi ei
ddatblygu gan yr Uned Technolegau Iaith yma ym Mangor, er mwyn chwilio
testunau - hyd yma mae'n bosib chwilio Cofnod y Cynulliad a gweld beth
sydd wedi ei ddefnyddio mewn gwahanol gyd-destunau.

http://www.cysgliad.com/cysefin/hebog/#en_responsibility+to

-- 
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University

-- 
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dil?wch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio ? defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office.  www.bangor.ac.uk