Awgrym - cysylltu ag Adran Technoleg Bwrdd yr Iaith? - fe ddylai rhywun allu ateb y broblem. Carolyn -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Wyn Hobson Anfonwyd/Sent: 15 Chwefror 2012 10:46 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Adnoddau Cymraeg ar gyfer Word 2010 Meddai Guto Jones: > (ii) Heb fedru gwneud pen na chynffon o eiriadur 'Cymraeg' Microsoft, mae arna i ofn. Oes modd defnyddio Cysgliad yn hyn > o beth? Yr hyn sydd arnaf ei hangen ydi meddalwedd sy'n cyfateb i'r 'Welsh Proofing Tools' a gyhoeddwyd ar gyfer Windows XP. Does dim modd gosod y fersiwn hwnnw ar Windows 7, a dw'n amau bod yr 'Interactive Language Packs' yn rhywbeth cwbl wahanol. Wnaiff Cysgliad mo'r tro 'chwaith - mae arna' i angen mewnforio gwiriwr sillafu Cymraeg Word (os oes un, bellach) i Deja Vu er mwyn rhedeg gwiriadau sillafau oddi mewn i Deja Vu *cyn* allforio'r cyfieithiad i ddogfen RTF a gwirio sillafu a gramadeg gyda Chysill. Wyn