O feddwl wedyn, tydi 'cot' a 'haen' ddim yn mynd i
weithio fel pennawd i'r tabl os wyt ti'n sôn am y peiriannau newydd sy'n
chwistrellu slyri i'r ddaear mewn rhesi - chwistrelliad fyddai hynny mae'n
siwr ynde. Neu taeniad? Chwistrellu ydi'r dull sy'n cael ei argymell y dyddie
yma gan fod na lai o siawns o lygru ffosydd ac ati.
Rhian
-----Original Message----- From: Sian Roberts
Sent: Saturday, January 07, 2012 12:15 AM
Subject: dom da
1) Beth fyddai'r gair gorau am "muck" - term ymbarel
a all gynnwys "manure" a "slurry"?
2) Mae GyrA yn rhoi "biswail" am "slurry" ond
TermCymru a Thermau Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhoi "slyri" bob tro. Oes 'na reswm? Mae Cydymaith Byd Amaeth yn
cyfeirio at y ddau heb groesgyfeirio ond maen nhw'n swnio'n eitha tebyg.
Awgrym bod biswail yn arfer cael ei ddefnyddio am dom sychach ond erbyn hyn ei
fod yn cael ei ddefnyddio am stwff mwy gwlyb?
3) Wedyn, beth am "application" i sôn am sgwaru tail.
Mewn penawdau tablau y mae'n digwydd felly does dim lle i chwarae. Rhywbeth
fel "dos" neu "cot" fyddai'n dda.
Diolch
Siân