Print

Print


Yn hollol - hynny hefyd - er na dio'm yn llawn gyflythrenu achos mai C a Ch ydyn nhw, maen nhw'n nes ati - go ffor ddy old-ffashiond, Ann - mae na naws iddo fo, does na ddim naws i'r lleill, ac ma isio naws i enw arddangosfa

Anna

2012/1/1 Ann Corkett <[log in to unmask]>

 

 

Diolch i chi’ch tri.  Wedi anfon y ddau awgrym ymlaen, ond, yn bersonol, yn ffafrio’r cyd-lythrennu yn “Cynt a Chwedyn”.

 

Cofion,

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 01 January 2012 16:11
To: [log in to unmask]


Subject: Re: Before and After

 

Dyna oedd fy nheimlad i, ond dy fod ti wedi'i gyfleu yn well!

Anna

2012/1/1 <[log in to unmask]>

Cynt a Chwedyn yn cael fy mhleidlais i. Efallai ei fod yn 'hen ffasiwn' i rai, ond mae harddwch yr iaith yn disgleirio drwyddo.

Sent from my BlackBerry device on the Rogers Wireless Network


From: anna gruffydd <[log in to unmask]>

Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Date: Sun, 1 Jan 2012 14:48:18 +0100

ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Subject: Re: Before and After

 

Faswn i'n awgrymu Cynt a Chwedyn, neu Cynt ac Wedyn - maen nhw'n haws eu deud - ac mi faswn yn ffafrio'r cynta am ei fod yn rhywbeth arbennig (fedra i ddim meddwl am ffordd well o'i gyfleu o ar y funud

Anna

2012/1/1 Ann Corkett <[log in to unmask]>

Blwyddyn newydd dda ichi i gyd – gobeithio, er hynny, fod rhywrai o gwmpas yn defnyddio eu cyfrifiaduron heddiw.

 

yn achosion cyn + wedi a cynt + wedyn:

 

HELP!

 

Mae fy nghlust i, a chlust Bruce (pan nad yw’n son am “cynt a chwedyn”) yn dweud “cynt a wedyn”, a dyna sydd gan Peter Wynn Thomas, ond mae Cysill yn cywiro “a wedi/wedyn” i “ac wedi/wedyn”.

 

Ydy hon yn adeg arall pan fydd pobl yn dweud wrthyf fy mod i’n gywir ond yn hynod o hen ffasiwn?  Beth ddylwn i awgrymu, os gwelwch yn dda, fel teitl ar gyfer arddangosfa (sydd yn mynd i fod yn “Cyn ac Wedyn” os na chynigiaf rywbeth arall yn reit sydyn, os nad yw hi’n rhyw hwyr eisoes!)?